Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Meddygon iau Cymru'n cynnal eu streic hiraf erioed

Disgrifiad,

Streicio yw'r unig opsiwn, yn ôl Owain Williams, meddyg iau yn Ysbyty Tywysoges Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae meddygon iau yng Nghymru yn dechrau ar streic 96 awr ddydd Llun - eu cyfnod hiraf o weithredu diwydiannol erioed.

Dywedodd Cymdeithas Feddygol y BMA ei fod yn sefyllfa “hynod o drist” ond nad oes dewis gan fod cyflogau meddygon wedi gostwng tua 30% mewn 15 mlynedd.

Rhybuddiodd pennaeth y GIG y bydd y streic yn cael effaith “sylweddol” ar ddarpariaeth gwasanaethau, ac yn costio tua £1.1m y dydd.

Fe wrthododdd y BMA cynnig cyflog o 5% gan Lywodraeth Cymru, sy'n dweud nad oes rhagor o arian i'w gynnig.

'Mae'r tâl yn well' tu hwnt i Gymru

Mae Elen Puw, 28, yn mwynhau ei swydd fel meddyg pobl hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn Mhen-y-bont ond mi fydd hi ymysg mwy na 3,000 o feddygon iau Cymru ar y llinell biced.

"Mae rhan fwyaf o’n ffrindiau wedi gadael Cymru - mae rhai ohonyn nhw wedi symud i Loegr," meddai.

"Yn amlwg maen nhw dal yn streicio fynna hefyd ond mae’r tâl yn well, neu os ydych chi’n mynd i’r Alban gewch chi tâl gwell fyth.

"Mae lot o fy ffrindiau wedi symud i Awstralia neu Seland Newydd hefyd. Fanna mae’r tâl yn well ond ar ben hynny mae yna fwy o ddoctoriaid felly mae’r pwysau arnoch chi fel unigolyn yn llai."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig i Elen ei bod hi'n medru darparu gofal i gleifion trwy gyfrwng y gymraeg a mae hi'n poeni y bydd hynny'n cael ei golli os yw hi'n gadael y wlad.

Ychwanegodd Elen: "Mae meddygon iau sydd newydd ddechrau eu gyrfa yn ennill £13.65 yr awr ac yn chwilio am shifftiau ychwanegol er mwyn gallu talu rhent ond maen nhw'n gweithio 56 awr yr wythnos yn barod.

"Dwi’n gwybod bod pawb yn stryglo gyda chostau byw dyddiau yma ond efo’n tâl ni heb godi, mae pobl yn stryglo i ffeindio rhywle i fyw.

"Maen nhw’n gorfod penderfynu os ydyn nhw am fynd i’r gwaith neu aros i edrych ar ôl y plant."

Argyfwng yn gwaethygu

Ar y linell biced y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam ddydd Llun oedd Dr Gwilym McCann.

Dywedodd: "Mae 'na bres yn y system wleidyddol - lle mae'r pres yna'n cael ei wario? Dyna'r un peth sy'n gallu newid.

"Mae'r system iechyd mewn argyfwng. Os na rown ni sylw a phres i mewn rwan, 'da ni mewn risg go iawn o golli mwy o ddoctoriaid a rhoi'r GIG mewn sefyllfa gwaeth na mae o'n barod.

"Does dim un doctor am achosi niwed i gleifion, ond os na wnawn ni rhywbeth rwan, fydd problemau i gleifion yn llawer, llawer gwaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Gwilym McCann ar y llinell biced yn Wrecsam fore Llun

Yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru, mae'n "rhwystredig" bod meddygon iau Cymru - sydd â hyd at 11 o flynyddoedd o brofiad - yn teimlo eu bod yn gorfod streicio unwaith eto eleni.

Mae'r streic yn dechrau am 07:00 ddydd Llun 25 Mawrth ac yn para nes 07:00 ddydd Gwener 29 Mawrth.

Wrth ymateb i'r streicio, dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething, y byddai'n trefnu cyfarfod gyda'r BMA i drafod dyfodol doctoriaid yng Nghymru.

Wrth gydnabod ei fod yn "her wirioneddol" i'r doctoriaid, dywedodd ei fod yn awyddus i gael trafodaeth "agored ac onest" ynghylch yr adnoddau ariannol sydd ar gael.

Dywedodd: "Rydym yn wynebu heriau ariannol sylweddol, ond fel rwyf eisoes wedi crybwyll, mae'n rhaid i ni fod yn agored gyda nhw ynghylch yr hyn gallwn wneud nawr ac yn y dyfodol."

'£11m o gost ychwanegol'

Mae pennaeth GIG Cymru, Judith Paget, wedi rhybuddio y bydd angen aildrefnu nifer fawr o apwyntiadau.

Bu'n rhaid gohirio 9,102 o apwyntiadau cleifion allanol (30% o'r holl apwyntiadau) a 1,090 o lawdriniaethau (32% o'r holl lawdriniaethau) yn ystod y streic ddiwethaf ym mis Chwefror a barodd am dridiau.

Bydd adrannau gofal brys yn parhau i ddarparu gofal ar gyfer y bobl fwyaf anghenus yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.

Dywedodd Ms Paget: "Mae pob dydd o streicio yn costio oddeutu £1.1m felly ar ddiwedd 10 diwrnod (gan gynnwys streiciau blaenorol eleni) mae hynny bron yn £11m o gost i'r GIG.

"Rwy'n credu y byddai'n well gan bawb sy'n gweithio yn y GIG weld yr arian yna yn mynd tuag at leihau rhestrau aros a gweld cymaint o gleifion ag y gallwn ni.

"Ond realiti'r sefyllfa yw ein bod mewn anghydfod diwydiannol ac mae'n rhaid sicrhau bod gwasanaethau'n parhau."

Disgrifiad o’r llun,

Judith Paget yw prif weithredwr GIG Cymru

“Gofynnwn i bobl ddefnyddio opsiynau eraill yn lle adrannau brys os nad yw eu hangen yn holl bwysig yn ystod cyfnod y streic", medd Ms Paget.

"Mae opsiynau eraill yn cynnwys GIG 111 ar-lein neu dros y ffôn a fferyllfeydd.

“Os nad yw eich apwyntiad yn mynd yn ei flaen, bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi i roi gwybod. Os na chysylltir â chi, dewch i'ch apwyntiad fel y cynlluniwyd.

“Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn eich ardal.”

Yn dilyn ei hailbenodiad gan Brif Weinidog newydd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Er ein bod ni'n dymuno mynd i’r afael â’n huchelgeisiau o ran adfer cyflogau, does yna ddim rhagor o arian ar ôl yn ein cyllideb i allu cynnig mwy, ac mae'r cynnig presennol yn adlewyrchu’r cytundeb a gyrhaeddwyd gyda’r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.”

Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke

Dwysáu mae gweithredu diwydiannol y meddygon iau.

Fe fydd y streic ddiweddaraf yma yn para am 96 o oriau, sef pedwar o ddiwrnodau, sy'n hirach na'r ddau streic sydd wedi digwydd eisioes.

Ac fe fydd ‘na effaith ychwanegol gan fod y streic yn digwydd yn syth cyn penwythnos y Pasg sy'n cynnwys dau Gŵyl Banc.

O ganlyniad fe fydd gweithgarwch y gwasanaeth iechyd yn llawer llai na'r hyn sy'n arferol am dros wythnos.

Felly fe fydd rhaid adrefnu llawer iawn o apwyntiadau a thriniaethau sydd ddim yn rhai brys.

Bydd hyn nid yn unig yn anghyfleustra i gannoedd o gleifion ond hefyd yn achosi gofid i'r rhai sydd eisioes wedi bod yn aros am driniaeth am gyfnod sylweddol.

Ac o ystyried fod maint rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yn dal yn uchel iawn dyw hyn ddim yn mynd i fod yn gymorth yn yr ymdrech i'w gostwng.

Fe fydd byrddau iechyd, cymaint ag y gallan nhw, yn ceisio diogelu gwasanaethau brys yn ystod y streic, gydag ymgynghorwyr a meddygon hŷn eraill yn llenwi rhai o shifftiau eu cydweithwyr iau.

Ond er mwyn iddyn nhw wneud hynny mae'n rhaid talu a bydd hynny'n gost ychwanegol i fyrddau iechyd sydd eisioes yn brin o arian.

Dim syndod felly fod Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am weld y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn blaenoriaethu ymdrechion i ddatrys yr anghydfod.