Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Carcharu dyn ar ôl anafu menyw a ffoi o wrthdrawiad

Liam SkymFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liam Skym wedi cael dedfryd o flwyddyn a phedwar mis am yrru’n beryglus

  • Cyhoeddwyd

Mae tad i dri o blant wedi cael ei garcharu a’i wahardd rhag gyrru ar ôl ffoi o safle gwrthdrawiad yng Nghaerffili, wnaeth anafu dynes oedd yn y car gydag ef.

Roedd “arogl cryf o alcohol” ar Liam Skym, 28, pan gafodd ei arestio gan yr heddlu yn fuan wedi’r digwyddiad, gyda phrofion yn canfod cyffuriau ac alcohol yn ei system.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod wedi ffoi o’r digwyddiad gan adael Lisa Davies, oedd yn teithio yn y car, wedi’i hanafu wrth ochr y ffordd.

Cafodd Skym, sydd heb gartref sefydlog, ddedfryd o 16 mis ar ôl pledio'n euog i yrru’n beryglus, a gyrru tra’n anffit oherwydd diod neu gyffuriau.

'Gyrru'n rhy gyflym'

Clywodd y llys fod Skym a Lisa Davies wedi treulio’r noson gynt gyda’i gilydd, cyn mynd mewn car a gyrru i Fynydd Caerffili ar 25 Hydref 2023.

Ar ôl stopio am fwyd, fe ffraeodd y cwpl cyn i Skym yrru ymlaen gyda Miss Davies yn dal yn sedd y teithiwr.

“Roedd yn ymddangos bod gyrru’r diffynnydd yn rhy gyflym i natur y ffordd,” meddai Ruth Smith KC ar ran yr erlyniad.

Yn fuan wedyn, am tua 09:30, collodd Skym reolaeth ar y cerbyd, a wyrodd oddi ar y ffordd cyn taro coeden.

Ar ôl i Miss Davies helpu Skym allan o’r cerbyd, fe adawodd safle’r ddamwain a’i “gadael hi mewn cyflwr dryslyd”, yn ôl Ms Smith.

Gyrru dan ddylanwad alcohol

Pan gafodd Skym ei arestio’n ddiweddarach gan yr heddlu, fe wnaethon nhw ganfod 100mg o alcohol fesul 100ml yn ei system, sy’n uwch na’r terfyn cyfreithiol o 80mg.

Roedd ganddo hefyd bron i bum gwaith y terfyn cyfreithiol o benzoylecgonine yn ei system - sylwedd sy’n gynnyrch o ddefnydd cocên.

Cafodd Skym a Miss Davies driniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad, ond chawson nhw ddim eu hanafu’n ddifrifol.

Cafodd cyhuddiad blaenorol yn erbyn Skym o geisio llofruddio ei ollwng, gan nad oedd tystiolaeth o safle’r gwrthdrawiad ei fod wedi “colli rheolaeth [o’r cerbyd] yn fwriadol”.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Skym ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher

Wrth amddiffyn, dywedodd Mark Cotter KC fod Skym wedi cael ei “wahodd i yrru” gan Miss Davies, “mewn amgylchiadau lle byddai hi wedi gwybod” am unrhyw ddiod a chyffuriau yr oedd wedi eu cymryd y noson gynt.

Ychwanegodd nad oedd y lefelau a nodwyd yn y profion diod a chyffuriau yn dangos “tystiolaeth glir i ddweud bod hyn yn amharu’n sylweddol” ar ei allu i yrru.

Clywodd y llys fod Skym wedi’i gael yn euog o droseddau blaenorol, gan gynnwys bod â chyffuriau yn ei feddiant, a gwaharddiad rhag gyrru am fethu â darparu sampl.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke fod Skym wedi achosi’r ddamwain trwy “yrru’n afreolaidd ac yn rhy gyflym i amodau’r ffordd”, cyn gadael Miss Davies wedi’r digwyddiad.

“Wnaethoch chi ddim ei helpu. Fe wnaethoch chi adael y safle gan ei gadael hi’n gorwedd mewn cyflwr dryslyd,” meddai.

“Roedd hi’n ffodus iawn i beidio â chael ei hanafu’n ddifrifol.”

'Arnoch chi mae’r bai'

Ychwanegodd nad oedd y ffaith fod Miss Davies wedi ei wahodd i yrru’r cerbyd “yn esgus”.

“Eich dewis chi oedd gyrru, ac felly arnoch chi mae’r bai,” meddai.

Cafodd Skym ei ddedfrydu i flwyddyn a phedwar mis am yrru’n beryglus, a dedfryd o bedwar mis i gydredeg am yrru tra’n anffit oherwydd cymryd cyffuriau.

Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd dan glo, cyn cael ei ryddhau ar drwydded am 12 mis arall.

Fe wnaeth y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke hefyd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd, gyda hynny’n dechrau pan gaiff ei ryddhau o’r carchar, yn ogystal â gorchymyn iddo gymryd prawf estynedig os am gael ei drwydded yrru yn ôl.

Pynciau Cysylltiedig