Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Her seiclo Paul a Gareth i ddathlu Antur Waunfawr yn 40

Gareth a Paul tu allan i Beics Antur ym Mhorth yr AurGareth a Paul tu allan i Beics Antur ym Mhorth yr Aur
Disgrifiad o’r llun,

Gareth a Paul tu allan i Beics Antur ym Mhorth yr Aur, Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae Paul Lewis a Gareth Griffiths wedi seiclo 40 milltir i ddathlu pen-blwydd deugain oed Antur Waunfawr, y fenter sy'n eu cefnogi.

Sefydlwyd y fenter gymdeithasol sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned yn 1984.

Mae Paul o Benygroes wedi gweithio i Antur Waunfawr ers ei sefydlu, ac fe ymunodd Gareth o Gaernarfon rhyw ddegawd yn ddiweddarach.

Cymru Fyw aeth i sgwrsio gyda'r ddau draw yn Beics Antur yng Nghaernarfon lle maen nhw'n gweithio, cyn ac ar ôl eu her ar 12 Ebrill.

Diwrnod cyn yr her

Tra mae'r ddau'n cyfarch cwsmeriaid sydd wedi dod draw i’r siop i brynu neu logi beic, Jack Williams, Swyddog Beics Antur sy'n sôn am y syniad tu ôl i’r her:

“I ddathlu pen-blwydd Antur Waunfawr yn 40 ’dan ni wedi dod i fyny efo sialens seiclo 40 milltir efo’r hogia’. Felly Paul Lewis a Gareth Griffiths ydi’r unigolion sy'n cael eu cefnogi gan Antur Waunfawr, wedyn mae yna bedwar aelod o staff sef fi, Tom, Ian a James yn seiclo hefo nhw o amgylch Yr Wyddfa.

“Mi fyddwn ni’n dechra’ o Borth yr Aur lle mae siop Beics Antur, yna mynd o amgylch Y Foryd i fyny tuag at Waunfawr a phasio safle Antur Waunfawr, yna mynd tuag at Beddgelert, Pen-y-Gwryd, lawr i Llanberis ac yna yn ôl i Gaernarfon.

“Y bwriad oedd trio cael staff sy’n brofiadol yn beicio ond hefyd unigolion sy’n cael eu cefnogi gan Antur Waunfawr er mwyn ei ’neud o’n sialens i bawb. Mae seiclo yn sialens i bob un ohonan ni."

Disgrifiad o’r llun,

Jack Williams (dde) yw Swyddog Beics Antur

 hithau’n amser paned o’r diwedd, Paul a Gareth sy'n trafod paratoi a hyfforddi ar gyfer yr her dan arweiniad Jack.

Paul: “Dwi ’di bod yn hyfforddi, dwi wedi seiclo i Bwllheli o’r blaen. Dwi’n seiclo ar ddyddiau Sadwrn fel arfar."

Gareth: “Dwi’n arfar seiclo i gwaith. Dwi wedi bod heibio Fron Goch ac o amgylch Y Foryd hefyd, a wedi testio’r beics fyddwn ni’n ddefnyddio i Felinheli.

“Dwi’n licio mynd i fyny at Waterloo Port a Felinheli ffor’na ar ddyddiau Sul. Fydda i’n icio mynd fy hun. Mae’n braf.”

Sut hyfforddwr ydy Jack?

Gareth: “Mae o’n dda iawn. Fasa’n cael 12 allan o 10!”

Mae Paul yn cytuno gyda Gareth. “Mae Jack reit dda,” meddai. “Mae o’n dda yn trwsio beics hefyd.”

Disgrifiad o’r llun,

Paul, Michael a Gareth wrth eu gwaith

Yn ôl Paul a Gareth, mae yna fanteision dros ddefnyddio beiciau trydan i gyflawni her o’r fath, yn enwedig wrth ddringo a disgyn hyd elltydd serth o amgylch ardal Yr Wyddfa.

Gareth: “Beics letrig coch ’dan ni’n iwsho. Mae’n grêt gallu defnyddio letrig i fynd fyny yr allt. ’Dan ni wedi bod yn ymarfer newid gêr, freewheelio ar fflat, defnyddio trydan ar gyfer elltydd a ’dan ni’n gwybod be’ i ’neud wrth gyrraedd traffig.

Paul: “Dwi’n mynd fatha Concorde a fi ydy’r hyna’ sy’n ’neud o. Dwi’n 60 flwyddyn yma! Dwi’n edrych ymlaen at fory.”

Mae Gareth yn tynnu coes ei gyd-weithiwr a’i ffrind: “Fydd Paul angen batri sbâr!”

Ydy’r ddau'n nerfus at yr her?

Paul: “Na, fydd o’n iawn bydd. Noson iawn o gwsg heno a fydd o’n iawn.”

Gareth: “Fyddwn ni’n gwatsiad ar ôl ein gilydd.”

Disgrifiad o’r llun,

Gareth yn arddangos y dewis o feiciau trydan sydd ar gael i'w llogi yn Beics Antur

Gweithio i Antur Waunfawr

Erbyn heddiw mae Antur Waunfawr yn cyflogi dros 100 aelod o staff ac yn cefnogi dros 65 o oedolion gydag anableddau dysgu.

Gweledigaeth R. Gwynn Davies yn 1984 oedd cynnig gwaith go-iawn gyda phwrpas i bobl ag anableddau dysgu. Cyn hynny, derbyn gofal a gwaith mewn canolfannau arbennig oedd yr arferiad i bobl ag anableddau dysgu.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach ac mae Caergylchu, siop ddodrefn y Warws Werdd, Beics Antur, caffi Blas y Waun, siop grefftau a sawl elfen arall yn cynnig ystod eang o brofiadau gwaith a hyfforddiant.

Ffynhonnell y llun, Antur Waunfawr
Disgrifiad o’r llun,

Paul yn gwneud gwaith coed

Dros y pedwar degawd diwethaf mae Paul wedi cael ei gyflogi i wneud pob math o waith i’r Antur; o arddio i ailgylchu, o drwsio beics i gynhrychu seidr.

Paul: “Erbyn heddiw, ar safle’r Antur yn Waunfawr ydw i fwya’, fel caretaker ac yn y gerddi. Dwi’n gweithio yna efo Dewi, rheolwr y safle. Fydda i’n torri gwair, tynnu chwyn a sortio bins. Bach o bob dim.”

Mae Gareth hefyd wedi derbyn amrywiaeth o waith gyda’r fenter ers ei ddiwrnod cyntaf 30 mlynedd yn ôl yn 19 mlwydd oed:

“Dwi’n gweithio bedair diwrnod i’r Antur ar hyn o bryd; yn Beics Antur am ddau ddiwrnod ac yn ailgylchu y ddau ddiwrnod arall,” meddai Gareth.

“O’n i arfar gneud feincia’ picnic a byrdda’ adar pan neshi gychwyn yma. Dwi’n Jack of all trades. Dwi wedi ’neud pottery hefyd. A plannu bloda’.

“O’n i’n arfar torri gwair i bobl yn pentra’ Waunfawr hefyd, gwerthu bloda’ a gweithio yn y caffi. Dwi wedi gweithio yn Warws Werdd hefyd.

“Dwi’n licio bob math o waith. Mae’n braf gweld cyd-weithwyr. ’Dan ni’n dod ymlaen yn dda.”

Disgrifiad o’r llun,

Gareth yn gweithio yn Blas y Waun, caffi Antur Waunfawr yn 2019

Mae Paul yn cytuno gyda’i ffrind a’i gyd-weithiwr, er bod peth dadlau rhwng y ddau am bwy ydy’r garddwr gorau:

“Mae Gareth yn foi da. ’Dan ni gyd yn helpu ein gilydd,” meddai Paul.

“Ond fi ydi’r garddwr gora’. ’Dan ni’n tyfu tatws, moron, pys a ffrwytha’. Wedyn gwerthu y ffrwytha’ a ’dan i’n ’neud seidr."

Gareth: “Neshi brynu ’chydig bach o’r seidr i fynd adra, oedd o’n gry'. Mae’n rhoi llygada mul i chdi! Ga i ddim seidr cyn y ras feics ’de neu fyddai’n sâl.

Ffynhonnell y llun, Antur Waunfawr
Disgrifiad o’r llun,

Yfwch yn gymhedrol - mae gormod o seidr yn rhoi "llygaid mul" i chi yn ôl Gareth

Beth ydy trefn arferol y ddau yn Beics Antur?

Gareth: “’Dan ni’n trwsio beics, llnau, trwsio pynctiar, newid tsiaen, newid olwyn...”

Paul: “’Dan ni’n licio siarad efo’r cwsmeriaid, cymryd bookings a ffonio i ddeud os ydy’r beics yn barod a faint o’r gloch i ddod i’w nôl nhw.

“’Dan ni’n cael chips ar ddydd Gwener fel arfar ond sandwijis fory (ar ddiwrnod yr her).”

Disgrifiad o’r llun,

Criw prysur Beics Antur: Jac, Paul, Gareth, Michael a Tom

Lluniau o'r diwrnod mawr

Yn ôl Paul a Gareth, roedd seiclo deugain milltir o amgylch Yr Wyddfa yn “brofiad gwych” er yn heriol ar adegau. Dyma gasgliad o luniau o’r diwrnod.

Hefyd ar y diwrnod, fe seiclodd staff a nifer o unigolion eraill sy’n cael eu cefnogi gan Antur Waunfawr o Gaernarfon i'r Felinheli er mwyn nodi’r pen-blwydd arbennig.

Ffynhonnell y llun, Antur Waunfawr
Disgrifiad o’r llun,

Gareth, Paul a'r criw yn croesi Pont Yr Aber

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y rhai wnaeth seiclo o Gaernarfon i'r Felinheli a'u cefnogwyr

Ffynhonnell y llun, Antur Waunfawr
Disgrifiad o’r llun,

Gareth a Paul yn cyrraedd Rhyd Ddu

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Criw yn seiclo i'r Felinheli gan gynnwys Elen Thirsk, Prif Weithredwr Antur Waunfawr (dde)

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o gefnogwyr i roi hwb i'r beicwyr

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Malcolm Allen yn cyd-feicio gyda'i ffrind ac un o'r bobl mae'n ei gefnogi fel aelod o staff Antur Waunfawr

Ffynhonnell y llun, Antur Waunfawr
Disgrifiad o’r llun,

Gareth, Paul a'r criw yn seiclo trwy Waunfawr, cartref cyntaf Antur Waunfawr

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Beicwyr Caernarfon i'r Felinheli yn falch o'u camp hwythau

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Michael yn sgwrsio gydag Aled Hughes, cyflwynydd Radio Cymru

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dychwelyd i Beics Antur a derbyn eu medalau ar ôl seiclo 40 milltir

Teimladau ar ddiwedd yr her

Gareth: “Dwi’n edrych ymlaen at seidr bach yn tŷ rŵan!”

Paul: “Dwi am fynd i siopio yn Co-op a chael trît.”

Ond ar ôl dad-flino o’r her, mae’r ddau’n edrych ymlaen at ddigwyddiadau eraill fydd yn cael eu cynnal i ddathlu carreg-filltir Antur Waunfawr gan gynnwys Gŵyl Fai arbennig.

Paul: “Dwi’n joio fy hun yn gweithio yn Antur ac yn edrych ’mlaen at Gŵyl Fai.”

Pynciau Cysylltiedig