Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Digwyddiad Dyffryn Aman 'wedi ysgwyd y gymuned gyfan'

Cefin Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd brawd Cefin Campbell, Darrel, yn un o'r rhai cyntaf i gyrraedd y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Wedi i ddau athro ac un disgybl orfod cael triniaeth ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, dywedodd aelod lleol o'r Senedd bod y digwyddiad wedi "ysgwyd y gymuned gyfan".

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, soniodd Cefin Campbell AS am brofiad ei frawd, Darrel Campbell, a oedd yn un o'r rhai cyntaf i gyrraedd y digwyddiad.

"Oedd e'n brofiad ofnadwy iddo fe, wrth gwrs, ac i holl staff a disgyblion yr ysgol," meddai Mr Campbell, yr Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

"Dwi 'di siarad 'da fe neithiwr - mae e yn amlwg wedi cael ei ysgwyd gan y digwyddiad ond yn fwy na hynny mae e wedi bod yn athro yn ysgol ers 40 mlynedd - ei swydd gynta fe ar ôl coleg ac mae e wedi bod yna trwy'i yrfa.

"Dyw e ddim wedi gweld ddim byd tebyg i hyn... Mae'r holl ddigwyddiad annisgwyl yma wedi ysgwyd y gymuned gyfan ac mae rhywun yn meddwl am y rhai sydd wedi gorfod mynd i'r ysbyty a'r gymuned a'r rhieni hefyd sy'n dal i fod mewn sioc bore 'ma."

Mae'r ysgol ar gau ddydd Iau wrth i ymholiadau'r heddlu barhau ac fe fydd disgyblion yn cael gwersi ar-lein.

Wedi'r digwyddiad fe wnaeth yr eglwysi lleol agor eu drysau a bu nifer o aelodau a chyfeillion Eglwys yr Holl Saint yn mynd â phaned i deuluoedd oedd yn aros y tu allan i gatiau'r ysgol.

Un sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrechion, yw Michelle Lloyd, a ddywedodd ddydd Iau bod yr awyrgylch yn y dref yn dawelach o lawer na'r arfer.

Disgrifiad,

Michelle Lloyd fu'n disgrifio'r awyrgylch yn Rhydaman ddydd Iau

Mae Ally Reeves newydd ddechrau ar ei swydd fel ficer yn Rhydaman.

Wrth siarad â'r BBC fore Iau dywedodd: "Ro'n i'n cymryd y gwasanaeth yn y dref a phan ddes i allan ro'n i'n clywed y sirens - felly dyma fi'n mynd yn sydyn i elgwys yr Holl Saint sydd yn ymyl yr ysgol.

"Fe agoron ni'r eglwys ac mi es i lawr i siarad â rhai o'r rhieni.

"Roedd y rhan fwyaf yn dweud nad oedden nhw'n disgwyl i hyn ddigwydd yn ein cymuned ni."

Ychwanegodd yr Archddiacon Matthew Hill, eu bod "wedi creu lle yn yr Eglwys os yw pobl am fod yn dawel, myfyrio, cynnau cannwyll, neu siarad gyda rhywun tra bo pawb yn gweithio mas beth yw eu hymateb nhw i'r hyn sy' ‘di digwydd".

Disgrifiad o’r llun,

Llio Silyn: 'Pawb mewn sioc'

Yn ôl Llio Silyn, sy'n gynghorydd tref yn Rhydaman, roedd syndod aruthrol bod y fath beth wedi digwydd.

"Mae hyn yn rhywbeth na fyddai neb wedi gallu dychmygu ei weld yn digwydd," meddai.

"Pan glywes i, nes i geisio prosesu'r holl beth, wedyn es i lawr i'r dref i siarad gyda phobl. Roedd pawb mewn sioc.

"Ry' ni'n gymuned clos iawn, ma' pawb yn nabod ei gilydd yma.

"Dwi'n byw yma ers 10 mlynedd ac yn teimlo'n hapus iawn, mae'n gymuned ddiogel iawn."

"Rhaid cofio mai un person yw hyn... Un digwyddiad yw e, mae'n rhaid cofio hynny."

'Byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel'

Ychwanegodd Ms Silyn ei bod hi wedi siarad gyda rhai o'r disgyblion wedi'r digwyddiad: "Do'n nhw methu coelio bod y fath beth wedi digwydd yn eu hysgol nhw.

"Dwi'n siarad gyda disgyblion yn aml fel cynghorydd, maen nhw gyd yn glên iawn, ond dwi'n siŵr y bydd y digwyddiad yma yn cael effaith arnyn nhw.

"Mae'n rhaid i ni symud 'mlaen a dod o hyd i ffyrdd o ddelio gyda'r cyfan mewn modd cefnogol a chadarnhaol i bawb."

Ychwanegodd ei bod yn disgwyl y bydd ysgolion ar hyd Cymru nawr yn sicrhau bod mesurau diogelwch yn eu lle rhag ofn bod y fath beth yn digwydd eto.

"Dyna'r peth pwysig - y' chi byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n teimlo fel bo' fi’n yr Unol Daleithiau", meddai Rebecca Hayes

Dywedodd Rebecca Hayes, sy'n gyn-ddisgybl yn yr ysgol ac yn byw yn lleol, bod y cyfan yn "swreal".

“Hon yw fy ysgol i, ces i fy ‘ngeni a’m magu 10 milltir o’r ysgol, wy’n byw nawr pum milltir o’r ysgol, mae ‘mhlant i nawr mewn ysgolion eraill yn sir Gaerfyrddin, mae ‘ngŵr i’n dysgu mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin, mae’n teimlo’n bersonol iawn.

"O’n i ddim yn gysylltiedig â’r digwyddiad ddoe yn uniongyrchol ond mae’n teimlo’n rili bersonol bod e 'di digwydd i ni gyd ac mae e'n hollol hollol swreal.”

“Pan mae e’n taro’ch cymuned chi mae’n dod â phethe’n fyw iawn... fan hyn ges i bob cyfle ac eto i gyd ma' rhywbeth mor erchyll wedi digwydd yna ddoe.”

'Galle hwn fod wedi digwydd yn unrhyw le'

Ychwanegodd Ms Hayes: "Ma' hon yn ysgol sy’ ‘di gwreiddio yn ei chymuned, cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, a pheidied â neb bore ma' a theimlo’n gysurus ‘o jiw draw yn Sir Gaerfyrddin o'dd hwnna ma' hwnna ddigon pell oddi wrthym ni’ - galle hwn fod wedi digwydd yn unrhyw le.

"Dyw be sydd ‘di digwydd i ni yn Sir Gaerfyrddin ddim yn ei gwneud hi’n eithriad.

"Fi’n clywed y penawdau a fi’n meddwl bo' fi’n yr Unol Daleithiau, ond sir wledig yw hon, gwlad fach yn y byd.

"Yn sicr mae’r athrawon i’w canmol ddoe achos ma' athrawon yn gweithio mewn ysgolion gwahanol iawn i’r rhai o’n i ynddyn nhw flynyddoedd yn ôl.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gefnogaeth ar gael i bobl, yn ôl y cynghorydd sir Betsan Jones

Dywedodd y cynghorydd sir, Betsan Jones, bod angen rhoi clod i'r ysgol y ffordd y delio'n nhw gyda'r digwyddiad.

“Ma' fe’n gymuned glos iawn, ac mae pawb mewn sioc.

"Bore ddoe o’n i’n clywed y sirens yn mynd a gweld yr ambiwlans awyr a gweld nhw’n disgyn lawr a gwybod bo' rhywbeth erchyll wedi digwydd yn yr ysgol a fi just isie canmol fel mae’r ysgol di delio gyda fe.

"Mae lot o rieni a’n ffrindiau i sydd ag wyrion yn yr ysgol wedi canmol fel o' nhw di delio 'da fe i ddiogelu’r disgyblion ond hefyd y staff.

“Fel cynghorydd sir fi'n gwybod bod 'na gefnogaeth ar gael i unrhyw un sy ‘di cael eu heffeithio gan y digwyddiad erchyll 'ma.”

Mae ymddiriedolaeth Jac Lewis wedi dweud bod eu cwnselwyr ar gael i unrhyw un sydd angen cefnogaeth, a hynny yn y ganolfan llesiant ar gae pêl-droed Rhydaman rhwng 10:00 a 15:00 ddydd Iau.

Pynciau Cysylltiedig