Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Comisiynwyr Heddlu a Throsedd - beth maen nhw'n ei wneud?

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ar 2 Mai bydd etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal ledled Cymru.

Bydd ymgeiswyr o bedair prif blaid wleidyddol y genedl yn sefyll ym mhob un o'r pedair ardal heddlu.

Ers creu'r swyddi 12 mlynedd yn ôl, mae'n deg dweud bod gan lawer ohonom ni ddealltwriaeth braidd yn niwlog amdanyn nhw.

Gyda gorsafoedd pleidleisio yn agor mewn ychydig dros bythefnos, dyma gyfle i fwrw golwg arnynt.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Pam fod gennym ni gomisiynwyr heddlu a throsedd?

Etholwyd y comisiynwyr cyntaf yn 2012, o dan lywodraeth David Cameron yn y DU ar y pryd, yng Nghymru a’r rhan fwyaf o Loegr.

Ni effeithiodd y newid ar Yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae materion plismona wedi’u datganoli i’r llywodraethau yno.

Y nod oedd gwneud heddluoedd yn fwy atebol ac ymatebol i'r ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu, er mwyn dod â "llais cyhoeddus" i blismona.

Disodlodd y comisiynwyr yr awdurdodau heddlu, a oedd wedi dod yn "anghysbell ac anweledig, heb y gallu a'r mandad i fynnu blaenoriaethau pobl leol", yn ôl y Swyddfa Gartref.

Beth maen nhw'n ei wneud?

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn swyddogion etholedig a'u rôl yw helpu i sicrhau bod heddluoedd yn gweithredu'n effeithiol, ond nid i redeg y lluoedd hynny eu hunain.

Felly nid ydynt yn gyfrifol am wneud penderfyniadau gweithredol o ddydd i ddydd. Mae annibyniaeth weithredol heddluoedd yn cael ei diogelu gan y gyfraith.

Gwaith y comisiynwyr yw dal heddluoedd i gyfrif, i graffu ar eu perfformiad ar ran y cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu.

Maent yn penodi prif gwnstabliaid a gallant eu diswyddo, os oes angen.

Nhw hefyd sy'n pennu'r gyllideb flynyddol ar gyfer eu heddlu ac yn penderfynu ar lefel y gyfran o'r dreth gyngor sy'n cael ei neilltuo i gyllid yr heddlu, a elwir yn braesept yr heddlu.

Y bwriad yw i gomisiynwyr fod yn ddolen gyswllt rhwng swyddogion a chymunedau, gan ymgynghori â phobl leol, cynghorau a chyrff eraill a sicrhau bod cyllid yr heddlu’n cael ei wario’n ddoeth.

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd hefyd yn goruchwylio diogelwch cymunedol ac yn nodi strategaeth yr heddlu a blaenoriaethau plismona mewn Cynllun Heddlu a Throsedd.

Faint o gomisiynwyr fydd Cymru yn eu hethol ar 2 Mai?

Bydd pedwar comisiynydd heddlu a throsedd yn cael eu hethol, un yr un ar gyfer heddluoedd Dyfed-Powys, Gwent, De Cymru a Gogledd Cymru.

Mae’r gan y bedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru ymgeiswyr ym mhob ardal, sef y Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

Bydd yr etholiadau hyn yn defnyddio'r system bleidleisio draddodiadol a ddefnyddir ar gyfer ethol ASau i San Steffan, a elwir y cyntaf i'r felin.

Bydd pleidleiswyr yn dewis un ymgeisydd a pha bynnag ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yn ennill.

Mae hyn yn wahanol i bolau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd blaenorol, lle defnyddiwyd y system pleidlais atodol.

A oes unrhyw newidiadau eraill i'r broses y tro hwn?

Oes, am y tro cyntaf bydd angen dangos dogfen adnabod gyda llun cyn pleidleisio.

Ymysg y dogfennau y gellir ei ddefnyddio mae pasbort Prydeinig, trwydded yrru, cerdyn teithio rhatach 60 oed a hŷn, cerdyn teithio rhatach person anabl, neu gerdyn adnabod y cynllun safonau prawf oedran (cerdyn PASS).

Mae bellach angen defnyddio cardiau adnabod mewn etholiadau sy'n cael eu rhedeg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys etholiadau cyffredinol ar gyfer San Steffan.

Nid oes angen unrhyw brawf ar gyfer etholiadau’r Senedd, na chynghorau Cymru.

Beth ddigwyddodd yn yr etholiadau blaenorol?

Roedd disgwyl i'r etholiadau ddigwydd yn 2020 ond fe'u gohiriwyd am flwyddyn oherwydd y pandemig.

Andy Dunbobbin o'r Blaid Lafur enillodd etholiad Gogledd Cymru, sy'n golygu gydag ail-ethol Jeff Cuthbert yng Ngwent ac Alun Michael yn Ne Cymru fe gipiodd y blaid dair o'r pedair swydd.

Cafodd Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru ei ail-ethol yn Nyfed-Powys.

A yw Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn ennill llawer o gyflog?

Po fwyaf yw'r heddlu, yr uchaf yw'r cyflog. Ar hyn o bryd yn Ne Cymru mae Alun Michael yn cael £86,700 y flwyddyn.

Mae Jeff Cuthbert, yng Ngwent, yn derbyn £73,302, tra bod Andy Dunbobbin ar £73,300.

Mae gan Dafydd Llywelyn gyflog blynyddol o £68,200.

Pwy sy'n sefyll y tro hwn?

Mae Mr Cuthbert a Mr Michael ill dau yn ymddiswyddo yn yr etholiad hwn, felly bydd gennym o leiaf ddau Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd newydd yng Nghymru fis nesaf.

Yn Nyfed-Powys yr ymgeiswyr yw:

Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymreig

Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru

Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru.

Yng Ngwent:

Donna Cushing, Plaid Cymru

Mike Hamilton, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymreig

Jane Mudd, Llafur Cymru.

Yng Ngogledd Cymru:

Andy Dunbobbin, Llafur Cymru

Ann Griffith, Plaid Cymru

Brian Jones, Ceidwadwyr Cymreig

David Richard Marbrow, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Yn Ne Cymru:

Sam Bennett, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

George Carroll, Ceidwadwyr Cymreig

Dennis Clarke, Plaid Cymru

Emma Wools, Llafur Cymru.

Faint fydd yn pleidleisio?

Roedd y nifer a bleidleisiodd yn eithaf parchus yn y ddau etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throsedd diwethaf yng Nghymru, a gynhaliwyd ar yr un pryd ag etholiadau’r Senedd.

Yn 2016, yr ardaloedd heddlu â’r ganran uchaf yn pleidleisio yng Nghymru a Lloegr oedd Dyfed-Powys (48.9), De Cymru (46.6%), Gogledd Cymru (41.6%) a Gwent (39.4%).

Y nifer a bleidleisiodd isaf oedd Durham (17.4%), Cleveland (19.7%) a Swydd Gaerlŷr (19.8%).

Yn 2021, y ganran a bleidleisiodd uchaf oedd Dyfed-Powys (50.6%), Gogledd Cymru (45.4%), De Cymru (43.9%) a Gwent (41%).

Ond y tro hwn, yn wahanol i Loegr lle mae etholiadau lleol, mae etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru yn digwydd ar eu pen eu hunain.

Digwyddodd hyn yn flaenorol yn etholiadau cyntaf comisiynydd yr heddlu yn 2012 a dim ond 14.9% oedd y ganran a bleidleisiodd ledled Cymru.

O ystyried y bydd angen dangos dogfen adnabod am y tro cyntaf ac mae’n debyg ei bod yn rhesymol disgwyl i Gymru fod yn is yn nhabl cynghrair y nifer sy’n pleidleisio yn 2024 nag y bu yn yr wyth mlynedd diwethaf, ac o bosibl yn isel iawn.