Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Cyn-gariad Ryan Giggs yn 'gaethwas i'w holl ofynion'

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs yn cyrraedd y llys fore Mercher

Mae cyn-gariad Ryan Giggs wedi dweud wrth lys iddi ddod yn "gaethwas i'w holl ofynion ac anghenion".

Mae cyn-seren Manchester United a chyn-reolwr Cymru, 48, wedi'i gyhuddo o reoli ymddygiad ac o ymosod ar Kate Greville a'i chwaer, Emma.

Wrth gael ei chroesholi ddydd Mercher dywedodd Kate Greville wrth Lys y Goron Manceinion: "Fe wnaeth i mi deimlo bod rhaid i mi wneud yr hyn a ddywedodd, neu byddai canlyniadau."

Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau.

Cytunodd Ms Greville iddi wneud cyfres o ddatganiadau tyst i'r heddlu yn dilyn yr ymosodiad honedig yn Nhachwedd 2020, gan gynnwys dau yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Gofynnodd Chris Daw QC, oedd yn croesholi ar ran yr amddiffyniad: "Yng nghwrs y datganiadau hynny, a wnaethoch chi ddweud yr holl wir wrth yr heddlu?"

Atebodd hi: "100%."

'Wedi fy ynysu'

Bu'r bargyfreithiwr hefyd yn holi Ms Greville am ei pherthynas gyda'r cyn bêl-droediwr a sut wnaethon nhw ddod at ei gilydd.

"Roeddwn i mewn sefyllfa fregus ac fe chwaraeodd arno," meddai.

Gofynnodd Mr Daw: "Nid dim ond dau oedolyn oedd yn cydsynio oedd hwn, y ddau yr un mor briod ar y pryd, a ddechreuodd berthynas?"

Atebodd: "Roedd yna rywfaint o anghydbwysedd ar fy ochr i oherwydd y sefyllfa roeddwn i ynddi gyda fy nghyn-ŵr."

Dywedodd wrth y llys fod ymddygiad rheoli honedig Mr Giggs hefyd wedi effeithio ar ei chyfeillgarwch gyda'i ffrindiau a'i fod "wedi fy ynysu oddi wrth rai pobl", gan ychwanegu ei fod hefyd "wedi ymyrryd â fy ngallu i ryngweithio gyda fy nheulu".

'Dau berson gwahanol'

Dywedodd Ms Greville wrth y llys nad oedd trais Mr Giggs "yn rheolaidd" ac y byddai'n defnyddio ymddygiad ymosodol yn amlach fel rheolaeth.

Gofynnodd Mr Daw: "Ydych chi'n dweud ei fod wedi tanseilio eich hyder, eich hunan-barch a'i fod yn ddifrïol i chi yn gyffredinol yn y ffyrdd hynny?"

Atebodd Ms Greville: "Oedd, ar y cyfan mi oedd o, ond ar yr ochr arall roedd fel dau begwn. Dro arall byddai'n rhoi hyder i mi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos yn Llys y Goron Manceinion bara am 10 diwrnod

"Nid oedd yn gyson ofnadwy, ddim yn gyson erchyll. Roedd yn boeth ac yn oer. Dau berson gwahanol. Roedd canlyniad ei ymddygiad... yn tanseilio fy hunanhyder."

Dywedodd ei fod hefyd wedi tanseilio a difrodi ei busnes.

Clywodd y llys fod Ms Greville wedi darparu datganiad diwrnod cyn dechrau'r achos lle dywedodd ei bod wedi teimlo fel "caethwas" i'r diffynnydd.

Dywedodd: "Dyna sut deimlad oedd o. Pan ddywedodd Ryan wrthych i wneud rhywbeth, byddwn yn ei wneud.

"Roedd yna wrthwynebiad weithiau ond fe wnaeth i mi deimlo bod rhaid i mi wneud yr hyn a ddywedodd, fel arall fe fyddai canlyniadau."

Dywedodd Ms Greville ei bod â diddordeb mewn seicoleg ac yn ystod y berthynas fe wnaeth hi edrych i fyny ar y we beth oedd yn digwydd yn ei pherthynas.

'Personoliaeth narsisaidd'

"Beth ddaeth fyny fwyaf amlwg oedd 'anhwylder personoliaeth narsisaidd'," ychwanegodd. "Ac roedd yr hyn yr oeddwn yn ei brofi yn debyg iawn i hynny."

Gwadodd hefyd ei bod yn chwilio am iawndal pan ddaw'r achos i ben.

Dywedodd Ms Greville iddi sylwi ar "newid sylweddol" yn ei ymddygiad ym mis Ionawr 2018. Roedd hynny tua'r adeg roedd Mr Giggs yn ymgeisio am swydd rheolwr Cymru ond dywedodd nad ei waith oedd yn achosi iddo ymbellhau oddi wrthi.

Fe waethygodd y sefyllfa, meddai, yn ystod cyfnod clo cyntaf y pandemig pan roedd y ddau'n byw gyda'i gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Delwedd artist llys o Ryan Giggs yn gwylio cyfweliad heddlu Kate Greville yn cael ei chwarae i'r rheithgor

Clywodd y llys hefyd bod yr heddlu wedi gofyn am ffôn Ms Greville fel rhan o'u hymchwiliad, a bod hithau wedi dweud ei fod ar goll wedi iddi ei ollwng "wrth geisio achub fy nghi" o afon.

Aeth ffôn arall ar goll wedi i rywun ei ddwyn oddi arni yng nghanol Manceinion. Clywodd y llys bod modd cael unrhyw ddata o'r cwmwl, ond doedd Ms Greville ddim eisiau datgelu manylion ei busnes.

Gwadodd awgrym wrth iddi gael ei chroesholi bod yna unrhyw ymgais i osgoi rhannu gwybodaeth a fyddai'n tanseilio'r achos yn erbyn Mr Giggs.

'Wyth o ferched eraill'

Roedd y rheithgor wedi clywed eisoes fod Mr Giggs wedi gafael yn ysgwyddau Ms Greville a'i tharo gyda'i ben ym mis Tachwedd 2020, ar ôl iddi grybwyll y perthnasau honedig tu ôl i'w chefn.

Yn y cyfnod cyn yr ymosodiad honedig, dywedodd Ms Greville ei bod wedi dod i wybod fod Mr Giggs wedi cael "perthnasau llawn" gydag wyth o ferched eraill tra roedden nhw gyda'i gilydd.

Fe wnaeth darganfod negeseuon "yn mynd yn ôl blynyddoedd" ar ei iPad ei hysgogi i benderfynu ei adael, meddai.

Mae Mr Giggs wedi'i gyhuddo o ymddygiad rheoli a gorfodi yn erbyn Ms Greville rhwng Awst 2017 a Thachwedd 2020.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o ymosod ar Ms Greville, achosi gwir niwed corfforol iddi, ac ymosod ar Emma Greville yn ei gartref yn Worsley, Manceinion, ar 1 Tachwedd 2020.

Mae'r achos yn parhau.