Svoboda | Graniru | BBC Russia | Golosameriki | Facebook

Teulu o Geredigion yn croesawu cosbau yfed a gyrru llymach

  • Cyhoeddwyd
Miriam BriddonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Miriam Briddon ger Ciliau Aeron yn 2014

Mae teulu dynes o Geredigion gafodd ei lladd gan ddyn oedd wedi bod yn yfed a gyrru wedi croesawu cyhoeddiad gan y llywodraeth y byddan nhw'n cyflwyno cosbau llymach.

Cafodd Miriam Briddon, 21, ei lladd ger Ciliau Aeron ym mis Ebrill 2014 gan Gareth Entwistle, wnaeth gyfaddef achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol.

Ers hynny mae ei theulu wedi bod yn ymgyrchu i gynyddu uchafswm y gosb ar gyfer troseddau o'r fath.

Mae Adran Gyfiawnder Llywodraeth y DU nawr wedi cyhoeddi y gallai'r rheiny sydd yn cael eu canfod yn euog o yfed a gyrru wynebu dedfryd oes.

'Diolch'

Mae'n flwyddyn ers i deulu Miriam Briddon gyflwyno deiseb i Downing Street i alw am y newid ac yn ôl ei mam, Ceinwen, mae'r newyddion i'w groesawu.

"Mae'n edrych fel bod yr holl ymgyrchu rydyn ni wedi'i wneud (ochr yn ochr â theuluoedd eraill sy'n galaru) wedi gweithio o'r diwedd!" meddai mewn neges ar y ddeiseb.

Dywedodd eu bod nhw wedi bod yn, "aros yn hir am hyn," a nawr yn gobeithio y byddai'r llysoedd yn gwneud defnydd o'r pŵer newydd i roi dedfryd oes i droseddwyr o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

Teulu Miriam Briddon yn cyflwyno'r ddeiseb yn Downing Street llynedd

"Fydd cyhoeddiad heddiw ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r ddedfryd gafodd ei roi i'r dyn laddodd Miriam, ond gobeithio y bydd y canllawiau newydd yma'n rhybudd i eraill," meddai.

"Os yw'n arbed un teulu rhag gorfod mynd drwy beth 'dyn ni wedi, fe fyddwn ni wedi cyflawni rhywbeth positif.

"Mae'r gefnogaeth gyhoeddus rydyn ni wedi'i gael wedi'n cadw ni fynd unwaith eto, a byddwn ni wastad yn ddiolchgar am hynny.

"Diolch yn fawr iawn i chi."

Trosedd newydd

Cafodd Entwhistle bum mlynedd a chwe mis o garchar am achosi'r gwrthdrawiad wnaeth ladd Miriam Briddon, a bydd yn rhaid iddo dreulio hanner y ddedfryd dan glo.

Yn ôl canllawiau newydd yr Adran Gyfiawnder, gallai pobl sy'n cael eu canfod yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wynebu dedfryd o hyd at oes yn y carchar.

Gallai pobl sy'n achosi marwolaeth drwy oryrru, rasio neu ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru hefyd wynebu dedfrydau tebyg i ddynladdiad, gydag uchafswm y gosb yn cynyddu o 14 mlynedd i oes.

Bydd trosedd newydd - achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal - hefyd yn cael ei greu.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Dominic Raab fod y newidiadau yn rhan o ymgais y llywodraeth i wneud y ffyrdd yn saffach i yrwyr, beicwyr a cherddwyr.

"Yn seiliedig ar ddifrifoldeb yr achosion gwaethaf, y loes i deuluoedd y dioddefwyr, ac uchafswm y gosb ar gyfer troseddau eraill fel dynladdiad, rydyn ni'n bwriadu cyflwyno dedfrydau o garchar am oes i'r rheiny sy'n dinistrio bywydau wrth yrru'n beryglus, neu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau."